Rhufeiniaid 11:8-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. (Megis y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw.

9. Ac y mae Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt:

10. Tywyller eu llygaid hwy, fel na welant, a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser.

11. Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato Duw: eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i'r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt.

12. Oherwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i'r byd, a'u lleihad hwy yn olud i'r Cenhedloedd; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy?

13. Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint รข'm bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd;

Rhufeiniaid 11