25. Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddĂȘl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.
26. Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob.
27. A hyn yw'r amod sydd iddynt gennyf fi, pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt.
28. Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o'ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau.