21. Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith.
22. Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i'r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith.
23. A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn: canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn.
24. Canys os tydi a dorrwyd ymaith o'r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun?
25. Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.
26. Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob.