Rhufeiniaid 11:15-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i'r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw?

16. Canys os sanctaidd y blaenffrwyth, y mae'r clamp toes hefyd yn sanctaidd: ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae'r canghennau hefyd felly.

17. Ac os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a'th wnaethpwyd yn gyfrannog o'r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden;

18. Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.

19. Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd y canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn.

20. Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna.

21. Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith.

22. Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i'r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith.

23. A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn: canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn.

24. Canys os tydi a dorrwyd ymaith o'r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun?

25. Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.

Rhufeiniaid 11