Rhufeiniaid 10:8-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae'r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu;

9. Mai os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi.

10. Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth.

11. Oblegid y mae'r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.

12. Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a'r sydd yn galw arno.

13. Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.

14. Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr?

15. A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus!

Rhufeiniaid 10