11. Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y'ch cadarnhaer:
12. A hynny sydd i'm cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau.
13. Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo'm lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill.
14. Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid, ac i'r barbariaid hefyd; i'r doethion, ac i'r annoethion hefyd.
15. Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu'r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.
16. Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu; i'r Iddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groegwr.
17. Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.
18. Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder.
19. Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a'i heglurodd iddynt.
20. Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus:
21. Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.