Rhufeiniaid 1:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw,

2. (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,)

3. Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd;

4. Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy'r atgyfodiad oddi wrth y meirw:

Rhufeiniaid 1