1. Am hynny, fy mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd.
2. Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr Arglwydd.
3. Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a'm cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.
4. Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch.
5. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos.
6. Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw.