1. Paul, carcharor Crist Iesu, a'r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a'n cyd-weithiwr,
2. Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di:
3. Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
4. Yr wyf yn diolch i'm Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau,
5. Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint;
6. Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a'r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.