Obadeia 1:19-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a'r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead;

20. A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau.

21. A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a'r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd.

Obadeia 1