Obadeia 1:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Y dydd y sefaist o'r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i'w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt.

12. Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.

13. Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt:

14. Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd.

15. Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun.

16. Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent.

17. Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt.

18. Yna y bydd tŷ Jacob yn dân, a thŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr Arglwydd a'i dywedodd.

19. Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a'r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead;

20. A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau.

21. A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a'r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd.

Obadeia 1