1. Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi.
2. Wele, mi a'th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
3. Balchder dy galon a'th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a'm tyn i'r llawr?
4. Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a'th ddisgynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd.