80. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
81. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
82. Un bwch geifr yn bech‐aberth:
83. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahira mab Enan.
84. Dyma gysegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg dysgl arian, deuddeg ffiol arian, deuddeg llwy aur:
85. Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl, a deg a thrigain pob ffiol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau, yn ôl y sicl sanctaidd
86. Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl‐darth, o ddeg sicl bob llwy, yn ôl y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl.
87. Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod, deuddeg o ŵyn blwyddiaid, a'u blwyddiaid a deuddeg o fychod geifr, yn offrwm dros bechod.