Numeri 7:71-88 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

71. Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai.

72. Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran, tywysog meibion Aser.

73. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

74. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

75. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

76. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

77. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Pagiel mab Ocran.

78. Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Nafftali.

79. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

80. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

81. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

82. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

83. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahira mab Enan.

84. Dyma gysegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg dysgl arian, deuddeg ffiol arian, deuddeg llwy aur:

85. Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl, a deg a thrigain pob ffiol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau, yn ôl y sicl sanctaidd

86. Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl‐darth, o ddeg sicl bob llwy, yn ôl y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl.

87. Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod, deuddeg o ŵyn blwyddiaid, a'u blwyddiaid a deuddeg o fychod geifr, yn offrwm dros bechod.

88. A holl ychen yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych, trigain o hyrddod, trigain o fychod, trigain o hesbyrniaid. Dyma gysegriad yr allor wedi ei heneinio.

Numeri 7