66. Ar y degfed dydd yr offrymodd Ahieser mab Ammisadai, tywysog meibion Dan.
67. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
68. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
69. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
70. Un bwch geifr yn bech‐aberth:
71. Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai.