Numeri 7:48-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

48. Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Effraim.

49. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

50. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

51. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

52. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

53. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisama mab Ammihud.

54. Ar yr wythfed dydd yr offrymodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasse.

Numeri 7