Numeri 7:31-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

32. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

33. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

34. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

35. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisur mab Sedeur.

36. Ar y pumed dydd yr offrymodd Selumiel mab Surisadai, tywysog meibion Simeon.

37. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

Numeri 7