Numeri 7:25-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

26. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

27. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

28. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

29. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elïab mab Helon.

30. Ar y pedwerydd dydd yr offrymodd Elisur mab Sedeur, tywysog meibion Reuben.

31. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

Numeri 7