Numeri 5:4-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A meibion Israel a wnaethant felly, ac a'u hanfonasant hwynt i'r tu allan i'r gwersyll: megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

5. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

6. Llefara wrth feibion Israel, Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a bod o'r enaid hwnnw yn euog:

7. Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded i'r hwn y gwnaeth efe gam ag ef.

8. Ac oni bydd i'r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i'r Arglwydd, fydd eiddo yr offeiriad; heblaw yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto.

9. A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymant at yr offeiriad, fydd eiddo ef.

10. A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i'r offeiriad, eiddo ef fydd.

11. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

12. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gŵr pan wyro ei wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef;

13. A bod i ŵr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi, ac yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb ei dal ar ei gweithred;

14. A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi:

15. Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran effa o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm cof yn coffáu anwiredd.

16. A nesaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll gerbron yr Arglwydd.

17. A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymered yr offeiriad o'r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr.

Numeri 5