Numeri 5:28-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddihangol, ac a blanta.

29. Dyma gyfraith eiddigedd, pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac ymhalogi:

30. Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon.

31. A'r gŵr fydd dieuog o'r anwiredd, a'r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.

Numeri 5