Numeri 5:23-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â'r dwfr chwerw.

24. A phared i'r wraig yfed o'r dwfr chwerw sydd yn peri'r felltith: ac aed y dwfr sydd yn peri'r felltith i'w mewn hi, yn chwerw.

25. A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ef ar yr allor.

26. A chymered yr offeiriad o'r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i'r wraig yfed y dwfr.

27. Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr, yr â'r dwfr sydd yn peri'r felltith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a'r wraig a fydd yn felltith ymysg ei phobl.

28. Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddihangol, ac a blanta.

29. Dyma gyfraith eiddigedd, pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac ymhalogi:

30. Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon.

31. A'r gŵr fydd dieuog o'r anwiredd, a'r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.

Numeri 5