1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o'r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob un y byddo diferlif arno, a phob un a halogir wrth y marw.
3. Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt, allan o'r gwersyll yr anfonwch hwynt; fel na halogont eu gwersylloedd, y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith.
4. A meibion Israel a wnaethant felly, ac a'u hanfonasant hwynt i'r tu allan i'r gwersyll: megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
5. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
6. Llefara wrth feibion Israel, Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a bod o'r enaid hwnnw yn euog:
7. Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded i'r hwn y gwnaeth efe gam ag ef.
8. Ac oni bydd i'r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i'r Arglwydd, fydd eiddo yr offeiriad; heblaw yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto.
9. A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymant at yr offeiriad, fydd eiddo ef.
10. A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i'r offeiriad, eiddo ef fydd.
11. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
12. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gŵr pan wyro ei wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef;
13. A bod i ŵr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi, ac yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb ei dal ar ei gweithred;