34. A rhifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid y gynulleidfa, feibion Cohath, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:
35. O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:
36. A'u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain.
37. Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.
38. Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau;
39. O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:
40. A'u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, oeddynt ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain.
41. Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd.
42. A rhifedigion tylwyth meibion Merari, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau;
43. O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:
44. A'u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, oeddynt dair mil a dau cant.
45. Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.