32. A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch a'u morteisiau, a'u hoelion, a'u rhaffau, ynghyd â'u holl offer, ac ynghyd â'u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy.
33. Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari, yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
34. A rhifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid y gynulleidfa, feibion Cohath, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:
35. O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:
36. A'u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain.
37. Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.
38. Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau;
39. O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod: