Numeri 4:18-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:

19. Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a'i feibion a ânt i mewn, ac a'u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.

20. Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio'r hyn sydd gysegredig, rhag marw ohonynt.

21. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

22. Cymer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd;

23. O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24. Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.

25. Sef dwyn ohonynt lenni'r tabernacl, a phabell y cyfarfod, ei len do ef, a'r to o grwyn daearfoch, yr hwn sydd yn uchaf arno, a chuddlen drws pabell y cyfarfod,

26. A llenni'r cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a'r allor o amgylch, a'i rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a'r hyn oll a wnaed iddynt: felly y gwasanaethant hwy.

27. Wrth orchymyn Aaron a'i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch atynt eu holl glud i'w cadw.

28. Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.

29. A meibion Merari, trwy eu teuluoedd wrth dŷ eu tadau, y cyfrifi hwynt;

30. O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

Numeri 4