15. Pan ddarffo i Aaron ac i'w feibion orchuddio'r cysegr, a holl ddodrefn y cysegr, pan gychwynno'r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i'w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â'r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.
16. Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a'r arogl‐darth peraidd, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a'r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei ddodrefn.
17. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
18. Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:
19. Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a'i feibion a ânt i mewn, ac a'u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.
20. Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio'r hyn sydd gysegredig, rhag marw ohonynt.
21. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
22. Cymer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd;