Numeri 4:1-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2. Cymer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau;

3. O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab deng mlwydd a deugain, pob un a elo i'r llu, i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

4. Dyma weinidogaeth meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod, ynghylch y pethau sancteiddiolaf.

5. A deued Aaron a'i feibion, pan gychwynno'r gwersyll, a thynnant i lawr y wahanlen orchudd, a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth;

6. A gosodant ar hynny do o grwyn daearfoch, a thaenant arni wisg o sidan glas i gyd, a gosodant ei throsolion wrthi.

7. Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y dysglau, a'r cwpanau, a'r ffiolau, a'r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser arno.

8. A thaenant arnynt wisg o ysgarlad, a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei drosolion wrtho.

9. Cymerant hefyd wisg o sidan glas, a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni, a'i lampau, a'i efeiliau, a'i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef â hwynt.

10. A gosodant ef a'i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ef ar drosol.

11. A thaenant frethyn glas ar yr allor aur, a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

12. Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.

13. A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.

14. A rhoddant arni ei holl lestri, â'r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, ie, holl lestri'r allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

15. Pan ddarffo i Aaron ac i'w feibion orchuddio'r cysegr, a holl ddodrefn y cysegr, pan gychwynno'r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i'w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â'r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.

16. Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a'r arogl‐darth peraidd, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a'r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei ddodrefn.

17. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

Numeri 4