Numeri 34:11-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla, ar du dwyrain Ain; a disgynned y terfyn, ac aed hyd ystlys môr Cinereth tua'r dwyrain.

12. A'r terfyn a â i waered tua'r Iorddonen; a'i ddiwedd fydd y môr heli. Dyma'r tir fydd i chwi a'i derfynau oddi amgylch.

13. A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.

14. Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth.

15. Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o'r tu yma i'r Iorddonen, yn agos i Jericho, tua'r dwyrain a chodiad haul.

16. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

17. Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun.

18. Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.

19. Ac fel dyma enwau y gwŷr: o lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne.

20. Ac o lwyth meibion Simeon, Semuel mab Ammihud.

21. O lwyth Benjamin, Elidad mab Cislon.

22. A Bucci mab Jogli, yn bennaeth o lwyth meibion Dan.

23. O feibion Joseff, Haniel mab Effod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse.

24. Cemuel hefyd mab Sifftan, yn bennaeth dros lwyth meibion Effraim.

25. Ac Elisaffan mab Pharnach, yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon.

26. Paltiel hefyd mab Assan, yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar.

27. Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth dros lwyth meibion Aser.

28. Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali, Pedahel mab Ammihud.

Numeri 34