Numeri 33:7-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.

8. A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i'r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.

9. A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno.

10. A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch.

11. A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.

12. Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca.

13. A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus.

14. A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i'r bobl i'w yfed.

15. A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai.

16. A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa.

17. A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth.

18. A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma.

19. A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon‐Pares.

20. A chychwynasant o Rimmon‐Pares, a gwersyllasant yn Libna.

21. A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa.

22. A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha.

23. A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer.

24. A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada.

25. A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth.

26. A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath.

Numeri 33