Numeri 33:37-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom.

38. Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis.

39. Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor.

40. A'r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel.

41. A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona.

42. A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon,

43. A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth.

44. A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije‐Abarim, ar derfyn Moab.

45. A chychwynasant o Ije‐Abarim, a gwersyllasant yn Dibon‐Gad.

46. A chychwynasant o Dibon‐Gad, a gwersyllasant yn Almon‐Diblathaim.

47. A chychwynasant o Almon‐Diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.

48. A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

49. A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth‐Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.

50. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd,

51. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan;

52. Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o'ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.

53. A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i'w berchenogi.

54. Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i'r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i'r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch.

Numeri 33