1. A llefarodd Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd.
2. Os adduneda gŵr adduned i'r Arglwydd, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o'i enau.
3. Ac os adduneda benyw adduned i'r Arglwydd, a'i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuenctid;
4. A chlywed o'i thad ei hadduned, a'i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o'i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
5. Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o'i holl addunedau, a'i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddau yr Arglwydd iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.
6. Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o'i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi;
7. A chlywed o'i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a'i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant.
8. Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a'r Arglwydd a faddau iddi.
9. Ond adduned y weddw, a'r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni.