31. A'u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a'r bwrdd, a'r canhwyllbren, a'r allorau, a llestri'r cysegr, y rhai y gwasanaethant รข hwynt, a'r gaeadlen, a'i holl wasanaeth.
32. A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.
33. O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari.
34. A'u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant.