1. Adyma genedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai.
2. Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf‐anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.
3. Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu.
4. A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr Arglwydd, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.
5. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
6. Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.