9. A'u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;
10. Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r saith oen:
11. Un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw pech‐aberth y cymod, a'r poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'u diod‐offrymau.
12. Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod.
13. Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl.
14. A'u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o'r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o'r ddau hwrdd;
15. A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r pedwar oen ar ddeg:
16. Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.
17. Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.
18. A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
19. Ac un bwch geifr, yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm a'u diod‐offrymau.
20. Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl:
21. A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
22. Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.
23. Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl:
24. Eu bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
25. Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.