Numeri 29:6-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Heblaw poethoffrwm y mis, a'i fwyd‐offrwm, a'r poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

7. Ac ar y degfed dydd o'r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.

8. Ond offrymwch boethoffrwm i'r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl gennych.

9. A'u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;

10. Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r saith oen:

11. Un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw pech‐aberth y cymod, a'r poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'u diod‐offrymau.

12. Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod.

13. Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl.

14. A'u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o'r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o'r ddau hwrdd;

15. A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r pedwar oen ar ddeg:

16. Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.

17. Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.

18. A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

19. Ac un bwch geifr, yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm a'u diod‐offrymau.

Numeri 29