24. Eu bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
25. Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.
26. Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.
27. A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod;
28. Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.
29. Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.