1. Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi.
2. Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i'r Arglwydd; un bustach ieuanc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith‐gwbl:
3. A'u bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;
4. Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o'r saith oen:
5. Ac un bwch geifr yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch:
6. Heblaw poethoffrwm y mis, a'i fwyd‐offrwm, a'r poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.
7. Ac ar y degfed dydd o'r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.