Numeri 28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, a'm bara i'm hebyrth tanllyd, o arogl peraidd yn eu tymor.

3. A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i'r Arglwydd. Dau oen blwyddiaid perffaith‐gwbl, bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol.

4. Un oen a offrymi di y bore, a'r oen arall a offrymi di yn yr hwyr;

5. A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig.

6. Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

7. A'i ddiod‐offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod‐offrwm i'r Arglwydd, yn y cysegr.

8. Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd‐offrwm y bore, a'i ddiod‐offrwm yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

9. Ac ar y dydd Saboth, dau oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a'i ddiod‐offrwm.

10. Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i ddiod‐offrwm.

11. Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i'r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid,perffaith‐gwbl

12. A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd;

13. A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

14. A'u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.

15. Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi'r Arglwydd: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a'i ddiod‐offrwm.

16. Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd Pasg yr Arglwydd.

17. Ac ar y pymthegfed dydd o'r mis hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwyteir bara croyw.

18. Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo.

19. Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i'r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffaith‐gwbl.

20. Eu bwyd‐offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi;

21. Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen, o'r saith oen:

22. Ac un bwch yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch.

23. Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch hyn.

24. Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o'r saith niwrnod, fwyd‐aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a'i ddiod‐offrwm.

25. Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.

26. Ac ar ddydd eich blaenffrwythau, pan offrymoch fwyd‐offrwm newydd i'r Arglwydd, wedi eich wythnosau,cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.

27. Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

28. A bydded eu bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd;

29. Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r saith oen:

30. Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch.

31. Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, yr offrymwch hyn, (byddant gennych yn berffaith‐gwbl,) ynghyd â'u diod‐offrwm.