1. Yna y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa;)
2. Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y penaethiaid, a'r holl gynulleidfa, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd,
3. Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd yng nghynulleidfa Cora, ond yn ei bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo.
4. Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad.
5. A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr Arglwydd.
6. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
7. Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad: trosa iddynt etifeddiaeth eu tad.
8. Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i'w ferch.
9. Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w frodyr.
10. Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad.