Numeri 25:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch Sur: pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.

16. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

17. Blina'r Midianiaid, a lleddwch hwynt:

18. Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i'ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.

Numeri 25