Numeri 25:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A thrigodd Israel yn Sittim; a dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.

2. A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt.

3. Ac ymgyfeillodd Israel â Baal‐Peor; ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.

4. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog hwynt i'r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.

5. A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal‐Peor.

6. Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.

7. A gwelodd Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law;

8. Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i'r babell; ac a'u gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel, a'r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel.

9. A bu feirw o'r pla bedair mil ar hugain.

10. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

11. Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.

12. Am hynny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch.

Numeri 25