Numeri 24:6-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr Arglwydd, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.

7. Efe a dywallt ddwfr o'i ystenau, a'i had fydd mewn dyfroedd lawer, a'i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a'i frenhiniaeth a ymgyfyd.

8. Duw a'i dug ef allan o'r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac รข'i saethau y gwana efe hwynt.

9. Efe a gryma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a'i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.

10. Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y'th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a'u bendithiaist y tair gwaith hyn.

11. Am hynny yn awr ffo i'th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y'th anrhydeddwn; ac wele, ataliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd.

Numeri 24