Numeri 24:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel; nid aeth efe, megis o'r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua'r anialwch.

2. A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a daeth ysbryd Duw arno ef.

3. Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a'r gŵr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;

4. Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid:

5. Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanheddau di, O Israel!

6. Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr Arglwydd, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.

Numeri 24