Numeri 22:28-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. A'r Arglwydd a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wrth Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn?

29. A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siomi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y'th laddwn.

30. A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Naddo.

31. A'r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymodd ar ei wyneb.

32. A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti; canys cyfeiliornus yw'r ffordd hon yn fy ngolwg.

33. A'r asen a'm gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, ac a'i gadawswn hi yn fyw.

34. A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref.

35. A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, Dos gyda'r dynion; a'r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyda thywysogion Balac.

Numeri 22