Numeri 22:23-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A'r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o'r ffordd, ac a aeth i'r maes: a thrawodd Balaam yr asen, i'w throi i'r ffordd.

24. Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o'r ddeutu.

25. Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a'i trawodd hi eilwaith.

26. Ac angel yr Arglwydd a aeth ymhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tua'r tu deau na'r tu aswy.

27. A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd, ac a orweddodd dan Balaam: yna yr enynnodd dig Balaam, ac efe a drawodd yr asen รข ffon.

28. A'r Arglwydd a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wrth Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn?

Numeri 22