Numeri 22:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ameibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho.

2. A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i'r Amoriaid.

3. As ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel.

4. A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ych wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw.

Numeri 22