Numeri 21:23-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i'r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.

24. Ac Israel a'i trawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynnodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon.

25. A chymerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd.

26. Canys dinas Sehon, brenin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenin Moab, yr hwn a fuasai o'r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon.

27. Am hynny y dywed y diarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhaer dinas Sehon.

28. Canys tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchenogion Bamoth Arnon.

29. Gwae di, Moab; darfu amdanat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dihangol, a'i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid.

30. Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Noffa, yr hon sydd hyd Medeba.

31. A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid.

Numeri 21