13. Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Arnon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a'r Amoriaid.
14. Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon,
15. Ac wrth raeadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab.
16. Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.
17. Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi.
18. Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd â'r deddfwr, â'u ffyn. Ac o'r anialwch yr aethant i Mattana:
19. Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth:
20. Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tua'r diffeithwch.
21. Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd,
22. Gad i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o'th derfynau di.
23. Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i'r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.