1. A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi.
2. Ac nid oedd dwfr i'r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.
3. Ac ymgynhennodd y bobl รข Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd!
4. Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i'r anialwch hwn, i farw ohonom ni a'n hanifeiliaid ynddo?