1. A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi.
2. Ac nid oedd dwfr i'r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.
3. Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd!
4. Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i'r anialwch hwn, i farw ohonom ni a'n hanifeiliaid ynddo?
5. A phaham y dygasoch ni i fyny o'r Aifft, i'n dwyn ni i'r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i'w yfed?
6. A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
8. Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o'r graig, a dioda'r gynulleidfa a'u hanifeiliaid.
9. A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo.
10. A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o'r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr?